Ar yr erwydd cyntaf gallwch weld cyfres o gleffiau trebl neu G. Bydd y cleff hwn yn enwi’r ail linell o’r gwaelod fel G. Meddyliwch ble mae rhan isaf y cleff yn cylchu’r llinell, hon yw G.
Mae'r erwydd arall yn dangos cyfres o gleffiau Bas neu F. Enw’r llinell rhwng y ddau ddot yw F.
Mae’n bosibl y byddwch yn ei chael hi’n anodd llunio cleffiau’r trebl a’r bas, felly ymarferwch ysgrifennu’r cleffiau ar ddarn o bapur erwydd fel y dangosir isod.